Y profiad o fod yn aelod o rwydwaith o Ysgolion Arloesi sy’n helpu i ddatblygu’r cwricwlwm newydd;
Manteision
· Bod yn rhan o rywbeth pwysig
· Cyfle i gyfrannu/llais a werthfawrogir
· Ennyn brwdfrydedd ac uchelgais staff
Rhwystredigaeth
· Rhai ysgolion yn cyfrannu llawer , eraill ddim er iddynt wirfoddoli i gymryd rhan.
· Anghysondeb a dim gorolwg i ganfod hynny
· Rhwystredigaeth – perygl o golli brwdfrydedd wrth i’r broses lusgo. Cyfyngu ar y gallu i ddilyn y llinell amser; creu ymdeimlad di-angen o fethiant
Manylion unrhyw waith cwricwlwm y mae’r Ysgolion Arloesi wedi bod ynghlwm ag ef ac unrhyw wybodaeth berthnasol yr hoffent ei dwyn i sylw’r Pwyllgor
· Wythnos drawsgwricwlaidd yn cwmpasu’r chwe maes dysgu a phrofiad
· Pedair ysgol uwchradd ar ddeg wedi dod ynghyd,fesul maes dysgu a phrofiad, i rannu syniadau/deunyddiau
· Tair o ysgolion yn cydweithio ar arsylwi o’r cyfnod Sylfaen hyd at gyfnod allweddol 3
Ø Cynllunio elfen o gwricwlwm gwyddoniaeth yn seiliedig ar Y Syniad Mawr
Ø Addysgu’r gwersi a’u gwerthuso
Sylwadau ar y modd y mae’r gwaith o gynllunio a datblygu’r cwricwlwm newydd yn mynd rhagddo ac unrhyw sylwadau eraill ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi argymhellion yr Athro Donaldson ar waith.
· Profiadau gweithgorau arweinwyr strategol yn bositif
· Cynadleddau costus yn gallu bod yn ailadroddllyd; gellid crynhoi’r materion allweddol
· Y modd y mae’r cyllid wedi cael ei ddosbarthu o fewn y rhwydwaith cyfrwng Cymraeg yn aneffeithiol ac yn groes i ethos rhwydwaith ac yn llesteirio cynllunio strategol, effeithiol.